The Wayback Machine - http://cylchcaerfyrddin.org.uk/cylch.html

Y Cylch

Rydym ni yng Nghylch Meithrin Caerfyrddin yn eich croesawu chi a’ch plentyn yn gynnes iawn.  Rydym am weld eich plentyn yn cael pob cyfle i integreiddio a datblygu’n dda gyda ni o’r cychwyn cyntaf yn y Clwb Ti a Fi hyd nes i’ch plentyn adael y Cylch Meithrin a symud ymlaen i’r ysgol gynradd.  Os ydych am dderbyn rhagor o wybodaeth, neu am drafod unrhyw fater nad yw wedi’i gynnwys ar y wefan hon, mae’r Pwyllgor a’r staff ar gael i siarad â chi.

car.jpgY Cylch Meithrin

Mae’r Cylch Meithrin ar gyfer plant o ddwy oed a hanner, heb eu rhieni, hyd nes y byddant yn dechrau yn yr ysgol.  Cynigir amrywiaeth o brofiadau dysgu i’r plant a gallant chwarae gyda thywod, toes, jig-sos, paent, beiciau, teganau adeiladu ac ati.  Ceir digon o gyfle i wrando ar storïau, chwarae’n ddychmygus ac i ganu a dawnsio.

Mae amserlen y Cylch yn nodi gweithgareddau’r sesiwn ac mae pob sesiwn yn cynnwys egwyl ar gyfer diod a thamaid o fwyd iach.  Rydym yn gallu darparu ar gyfer unrhyw anghenion deiet arbennig.

 

Mae’r Cylch Meithrin yn cynllunio ac yn trefnu amrywiaeth o weithgareddau a phrofiadau sy’n rhoi cyfle i’ch plentyn ddatblygu yn y 6 maes sy’n cael eu hamlinellu yn y Cyfnod Sylfaen, sef:

  • Iaith, Llythrennedd a Sgiliau Cyfathrebu
  • Datblygiad Mathemategol
  • Datblygiad Personol a Chymdeithasol
  • Datblygiad Corfforol
  • Datblygiad Creadigol
  • Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd

Os am wybod mwy am y 6 maes uchod neu os am dderbyn copi o Bolisi Derbyn y Cylch, mae croeso i chi gysylltu ag Arweinydd y Cylch.

Croesawn blant ag anghenion arbennig i’r Cylch a gallant ymuno yn yr holl weithgareddau.

Mae’r Cylch wedi’i gofrestru gyda’r Mudiad Ysgolion Meithrin ac mae’n cyflogi staff cymwysedig ac ymroddgar.  Mae’r Cylch yn gweithio o fewn Cwricwlwm Y Blynyddoedd Cynnar.

tegan.jpg

Y Cylch Ti a Fi

Cynhelir y Cylch Ti a Fi bob bore dydd Mawrth  a bore dydd Iau.  Croesewir rhieni/gofalwyr a’u plant hyd at ddwy a hanner oed i ymuno gyda’r plant meithrin.  Mae’n gyfle bendigedig i rieni/gofalwyr babanod ifanc gwrdd â rhieni/gofalwyr eraill.  Mae’r Cylch Ti a Fi yn rhoi pwyslais mawr ar gydweithio ac anogir rhieni/gofalwyr i ymuno yn y gweithgareddau amrywiol.

Mae cyfarpar newid babanod a theganau addas ar gael.





Hanes Y Cylch

Cylch Meithrin Caerfyrddin oedd yr ysgol feithrin Gymraeg gyntaf i’w sefydlu yng Nghaerfyrddin.  Agorwyd y Cylch gan gapeli’r dref ar y 12fed o Fehefin 1964 yng Nghapel Heol Dŵr a pharhaodd yno hyd 1979 pan symudodd i’w safle presennol yng Nghapel Bethania.

Mae’r Cylch yn annibynnol o’r Awdurdod Addysg ac yn hunan gyllidol.  Rydym yn cael ein rhedeg fel elusen ac mae codi arian yn elfen bwysig iawn o ariannu’r Cylch.  Mae croeso mawr i bawb gyfrannu at y gwaith pwysig hwn.

tren.jpg

Iaith

Cymraeg yw iaith y Cylch Meithrin ac mae holl weithgareddau’r Cylch yn cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae llawer o’r plant sy’n mynychu’r Cylch yn dod o gartrefi di-Gymraeg ond buan y byddant yn dod i ddeall bron popeth!

Polisïau a Safonau

Mae polisïau Mudiad Ysgolion Meithrin ar gael i bawb eu gweld yn y Cylch ynghyd â’r Polisi Derbyn.Yn ogystal, mae adroddiadau cyfredol arolygon Estyn ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (CSSIW)  ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg i unrhyw un sydd am eu gweld yn y Cylch.